Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
|
|
|
Pleidleisiau a Thrafodion (1)
|
1. Teyrnged er cof am Brynle Williams, cyn-Aelod Cynulliad
15.16
2. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6
Estynnodd y cyn-Lywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Cynigiodd Ieuan Wyn Jones enwebu Rosemary
Butler.
Eiliwyd yr enwebiad gan Paul Davies.
Gan na wnaed unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd
y cyn-Lywydd fod Rosemary Butler wedi'i hethol yn Llywydd.
Cymerodd y Llywydd y gadair a rhoddodd anerchiad i'r
Cynulliad.
15.23
3. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6
Estynnodd y Llywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Cynigiodd Jocelyn Davies enwebu William
Graham.
Eiliwyd yr enwebiad gan Peter Black.
Cynigiodd Simon Thomas enwebu David
Melding.
Eiliwyd yr enwebiad gan Christine Chapman.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.
Roedd canlyniadau’r bleidlais gyfrinachol fel a ganlyn:
William Graham
|
David Melding |
Ymatal |
Cyfanswm |
12 |
46
|
1 |
59 |
Cyhoeddodd y Llywydd bod David Melding wedi’i ethol yn
Ddirprwy Lywydd.
Gwnaeth y Dirprwy Lywydd araith fer.
15.56
4. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, cytunodd y Cynulliad i ganiatáu enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog Cymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog Cymru.
Enwebwyd Carwyn Jones gan Janice Gregory.
Gan na waned unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd y Llywydd mai Carwyn Jones fyddai'r enwebai. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cyhoeddodd y Llywydd y bydd yn argymell ar unwaith i Ei Mawrhydi Y Frenhines benodiad Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru.
Gwahoddwyd Carwyn Jones i annerch y Cynulliad.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:11
Pennir dyddiad ac amser y Cyfarfod Llawn nesaf gan y Llywydd
Ysgrifenyddiaeth y Siambr